Y Parc
Y mae Parc Carafanau Home Farm wedi'i leoli mewn llecyn gwledig, tawel, heb fod ymhell o'r traeth.

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yma bob amser gan Gwyn a Kathryn Jones. Mae lleoliad y parc ei hun, sydd ar ochr ddwyreiniol Ynys Môn, wedi'i ddewis yn ofalus mewn llecyn tawel gyda choed a chaeau braf o'i amgylch. Yma cewch ddewis o wahanol safleoedd - glaswellt neu safle gro gyda gwasanaethau llawn.
Rydyn ni wedi gwrando ar farn ymwelwyr ac wedi ymateb trwy greu parc o'r safon uchaf gyda'r cyfleusterau diweddaraf.
Cliciwch ar y map bach yn y gornel er mwyn llwytho i lawr ac argraffu fersiwn PDF o fap y parc
