ffoniwch i holi ar 01248 410614
Tudalen Hafan > Bwthyn Tegfryn

Bwthyn Tegfryn

Bwthyn prydferth o'r 19eg ganrif. Arferai fod yn rhan o un o hen ystadau’r ynys, ond erbyn heddiw mae wedi’i adnewyddu’n fwthyn moethus.

Nosweithiau clyd o flaen y tân?

Yn 2007 codwyd estyniad newydd ac adnewyddwyd y bwthyn drwyddo draw i safon uchel - gyda stafell fyw gyfforddus a chroesawgar a chegin fawr, fodern.

Tegfryn - ystafell wely ddwbl Tegfryn - y gegin fwyta

Mae tair stafell wely, stafell molchi foethus a thu allan mae patio braf a gardd fawr gyda golygfeydd dros y caeau i gyfeiriad y môr. Dim ond pum munud o daith yw Traeth Lligwy, un o draethau harddaf Ynys Môn.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma i weld gwefan Tegfryn

              

 
Hawlfraint © 2010 Parc Carafanau Home Farm, Marian-glas, Ynys Môn, LL73 8PH
Ffôn 01248 410614
Enw defnyddiwr:
Allweddair:
Gyrrwch y cyfrinair