Enillydd - Parc Carafan Gorau y Flwyddyn 2010 AA
Mae Gwyn a Kathryn yn edrych ymlaen i'ch croesawu i Home Farm yn 2010.
Mae’r parc ar dir fferm ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn. Mae’r safle ei hun wedi’i addasu’n arbennig er mwyn cynnig dewis o wahanol safleoedd, o rai glaswellt i safleoedd gro gyda gwasanaethau llawn. Mae wedi’i leoli mewn llecyn tawel ymhell o’r ffordd, sy’n golygu ei fod yn addas iawn i deuluoedd, ac mae yna nifer o draethau braf a llwybrau arfordirol o fewn cyrraedd.